Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwneud Cais am Lwfans Gweini
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Gwneud Cais am Lwfans Gweini.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau drwy ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio drwy’rholl wasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a manylion cyswllt
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd, gallwch:
- Roi gwybod am broblem hygyrchedd i DWP (agor mewn tab newydd)
- Cysylltu â'r gwasanaeth Lwfans Gweini
Fel rhan o ddarparu'r gwasanaeth hwn, efallai y bydd angen i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch.
Byddwn yn gofyn i chi sut rydych am i ni anfon negeseuon neu ddogfennau atoch, ond cysylltwch â ni os ydych eu hangen mewn ffurf gwahanol. Er enghraifft, print bras, recordiad sain neu braille.
Y drefn gorfodaeth
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ y ’rheolaethau hygyrchedd’).
Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r :
- Gwasanaeth Cynghori a Chefnogaeth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â Web Content Accessibility Guidelines fersiwn 2.2 safon AA.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hon ar 16 Chwefror 2024. Fei'i hadolygwyd ddiwethaf ar 12 Gorffennaf 2024.
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 24 Ionawr 2024 yn edrbyn WCAG 2.2 AA gan ddefnyddio profion awtomataidd a phrofion â llaw. Cynhaliwyd y profion gan DWP.